Hanes Gweriniaeth Iwerddon

Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Yr Arlywydd Éamon de Valera

Sefydlwyd y wladwriaeth a adwaenir yn awr fel Gweriniaeth Iwerddon yn 1922, pan enillodd 26 o siroedd Iwerddon annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Unedig. Arhosodd y chwe sir arall yn rhan o'r Deyrnas Unedig fel Gogledd Iwerddon.

Yn ôl y cytundeb a wnaed a llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Rhagfyr 1921, crewyd gwladwriaeth gyda'r teitl "Gwladwriaeth Rydd Iwerddon" (Gwyddeleg, Saorstat Eireann; Saesneg, Irish Free State). Roedd gan y gogledd yr hawl i ddewis peidio cael ei gynnwys yn y wladwriaeth newydd. Ar bleidlais o 64 to 57, cytunodd y Dáil i'r trefniant, a than arweiniad Michael Collins ac Arthur Griffith sefydlwyd y wladwriaeth newydd. Fodd bynnag, roedd carfan dan arweiniad Eamon de Valera yn gwrthwynebu'r cytundeb. Bu rhyfel cartref a barhaodd hyd 1923; lladdwyd Michael Collins ond yn y diwedd bu'r blaid oedd yn cefnogi'r cytundeb yn fuddugol.

Yn 1932, enillodd Eamon de Valera, oedd wedi ffurfio ei blaid ei hun, Fianna Fáil, yr etholiad cyffredinol. Ar 29 Rhagfyr 1937 daeth ef a chyfansoddiad newydd i rym, yn newid enw'r wladwriaeth i "Iwerddon" yn unig ac yn creu swydd Arlywydd. Ail-enwyd swydd y Prif Weinidog yn Taoiseach. Arhosodd Iwerddion yn niwrtal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar 1 Ebrill 1949, cyhoeddwyd y wladwriaeth yn weriniaeth, gyda'r arlywydd yn cymryd y swyddogaethau oedd cynt wedi eu cadw i'r brenin. Er mai "Iwerddon" oedd yr enw swyddogol o hyd, daeth "Gweriniaeth Iwerddon" i gael ei ddefnyddio. Ymunodd a'r Cenhedloedd Unedig yn 1955 ac a'r Undeb Ewropeaidd yn 1973.

Aeth y Weriniaeth trwy gyfnod anodd yn economaidd tua diwedd y 1970au. Amrywiai'r llywodraeth rhwng y ddwy blaid fawr, Fianna Fáil a Fine Gael, gyda Charles Haughey yn Taoiseach dair gwaith a Garret FitzGerald ddwywaith yn ystod y 1980au. O ddechrau'r 1990au ymlaen, dechreuodd yr economi dyfu'n gyflym, ac erbyn dechrau'r 2000au Iwerddon oedd aelod ail-gyfoethocaf yr Undeb Ewropeaidd. Yn 1997 daeth Bertie Ahern yn Taoiseach.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search